Steeped in history, Nantclwyd y Dre's charming interiors offer a decadent yet cosy setting for intimate ceremonies. Rooms licensed for ceremonies include the Hall, the Nook, the Victorian kitchen, the Parlour, the Georgian Bedchamber, the Tudor Room, the medieval room, the Stuart room, the Victorian schoolroom, and the Edwardian room.
The beautifully kept gardens at Nantclwyd y Dre, provide an enchanting backdrop for photos and are also licensed for ceremonies. Any spot from the Dyer Gough, Thelwall, or Lord's garden maybe chosen and after its 2025 renovations, the Summerhouse will also be available. Each corner of the garden carries its own personality, from formal beds to wildflower walks, offering a range of seasonal blooms and views of the surrounding Clwydian hillsides.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae ardaloedd mewnol a hanesyddol Nantclwyd y Dre yn cynnig lleoliad moethus a chlyd ar gyfer seremonïau mwy preifat. Mae’r ystafelloedd sydd â thrwydded ar gyfer seremonïau’n cynnwys y Neuadd, y Gilfach, y Gegin Fictoraidd, y Parlwr, y Siambr Wely Sioraidd, yr Ystafell Duduraidd, yr ystafell ganoloesol, yr ystafell Stiwartaidd, yr ysgoldy Fictoraidd a’r ystafell Edwardaidd.
Mae’r gerddi hyfryd yn Nantclwyd y Dre’n darparu cefnlen brydferth ar gyfer lluniau ac maent hefyd wedi’u trwyddedu ar gyfer seremonïau. Gellir dewis unrhyw ardal o erddi’r Arglwydd, Dyer Gough neu Thelwall, ac unwaith y bydd y gwaith ailwampio wedi’i gwblhau yn 2025, bydd y Tŷ Haf hefyd ar gael. Mae gan bob cornel o’r ardd ei phersonoliaeth ei hun, o wlâu ffurfiol i lwybrau blodau gwyllt, gan gynnwys amrywiaeth o flodau tymhorol a golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd.